Dolgellau

Croeso i Ddolgellau.


Yn annhebyg i lawer o drefi Gogledd Cymru, gyda'i patrymau o strydoedd rheolaidd wedi eu sefydlu gan yr Eingl-Normaniaid, cychwynnodd Dolgellau fel casgliad o annedd-dai taeog gan ddatblygu dros y canrifoedd heb drefn arbennig.

Er fod Dolgellau wedi ei hystyried ei hun am hir yn dref sirol ac yn brif farchnad i Feirionnydd, i'r diwydiant gwlan y mae'r diolch am ei llwyddiant a'i datblygiad gan iddi ddod yn ganolfan ranbarthol i'r diwydiant hwn.